Profiadau Sefyll Arholiad


Eleni mi wnes i benderfynu sefyll yr arholiad TGAU dwy haen newydd, er mwyn cael blas ar y cymhwyster newydd. Mae 3 papur i'w cwblhau er mwyn gorffen y cwrs, ac mae gradd ddwbl i'w ddyfarnu ar y diwedd. O sylwi bod modd cymysgu haenau am y tro cyntaf, penderfynais roi sialens i'n hun o dderbyn canlyniad A*A* gan ddilyn y llwybr canlynol:

  • Uned 1: Haen Sylfaenol
  • Uned 2: Haen Uwch
  • Uned 3: Haen Uwch

Erbyn hyn rwyf wedi cwblhau Unedau 1 a 2 (bydd angen cwblhau Uned 3 yn y dyfodol, gan nad yw ar gael yn ystod Haf 2026). Dyma fy argraffiadau o'r profiad...

  • Teimlais bwysau annisgwyl reit ar gychwyn yr arholiad - y teimlad bod beth bynnag roeddwn am ei ysgrifennu "yn cyfrif", a bod angen meddwl yn ofalus cyn ysgrifennu ateb ar bapur.
  • Collais fy synnwyr o amser wrth ateb y cwestiynau – diflanodd yr awr gyntaf i nunlle. Roedd y teimlad fel gwylio cystadleuaeth nofio ble mae'r nofiwr yn treulio eiliadau cyntaf y ras o dan y dŵr, ym myd bach ei hun.
  • Mae'n ddigon hawdd gwneud camgymeriadau syml o dan bwysau amodau arholiad. Wrth wirio fy atebion ar y diwedd, darganfyddais ddau gamgymeriad diofal a oedd angen eu cywiro.
  • Os nad oedd ateb i gwestiwn yn dod allan fel rhif "neis", roeddwn yn teimlo'r angen i wirio'r ateb sawl tro, rhag ofn bod y gwir ateb yn rhywbeth mwy crwn!

Fel cafodd ei ddangos yn y deunyddiau asesu enghreifftiol, roedd steil uned 1 yn debyg i'r papurau Rhifedd blaenorol, ag uned 2 angen sgiliau di-gyfrifiannell cryf. Er enghraifft, roedd un cwestiwn angen darganfod swm canran o rif, ffracsiwn o rif a rhif cymysg o rif, gyda'r rhifau i gyd yn ddegolion. Tipyn o sialens! Amser a ddengys pa radd fyddaf yn gorffen efo, ond roedd y profiad yn un gwerth ei wneud. Ac ymddiheuriadau o flaen llaw i'r penaethiaid adran sydd wedi cysylltu efo fi yn cwyno bod y ffiniau graddau am godi eleni gan fy mod wedi gwneud y papurau!


Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth, 16 Mehefin 2026, 9:33 pm