Adnoddau Cwpan y Byd Qatar 2022
I'w lenwi yn ystod y gystadleuaeth...
I'w lenwi yn ystod y gystadleuaeth...
Mae croeso i unrhyw un ar draws Cymru gystadlu yn ein cystadleuaeth pêl-droed ffantasi ar gyfer Cwpan y Byd.
Rheolau: rhaid dewis tîm o 5 chwaraewr o sgwadiau timau grŵp B. Ni chewch wario mwy na £50 miliwn, a rhaid cael o leiaf un chwaraewr o bob safle (gôl-geidwad, amddiffynnwr, canolwr, blaenwr). Ni chewch ddewis mwy na 3 chwaraewr o unrhyw dîm.
Defnyddiwch y ffurflen gystadlu isod i yrru eich dewiadau draw cyn hanner dydd ar Dachwedd 21ain, gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost HWB.
Gwobr gyntaf: Pêl-droed Cwpan y Byd.
POB LWC!
Cwestiynau am aelodau o sgwad Cwpan y Byd Cymru.
A allwch chi ddefnyddio canlyniadau'r gemau cymhwyso yng ngrŵp Cymru i ail-greu'r tabl terfynol?
Taflen waith yn edrych ar y goliau mae Cymru wedi sgorio yn ddiweddar.
Gwrandewch ar rai o'r caneuon yn y rhestr chwarae uchod ar Spotify.
Gwyliwch y fideo uchod ar gyfer cân swyddogol tîm pêl-droed Cymru. Yna defnyddiwch y we i ymchwilio i'r canlynol.
Cyfle i lunio graff pellter-amser a graff chyflymder-amser yn seiliedig ar y gôl orau erioed!
Darllenwch yr erthyglau papur newydd uchod sy'n adrodd hanes y gêm rhwng Cymru a'r Wcráin ar Fehefin 5ed, 2022.
Mae 'na 32 gwlad yn cystadlu yng Nghwpan y Byd eleni. Beth yw prif iaith bob gwlad, a sut maent yn dweud "Cymru", "Helo" a "Cwpan y Byd"?
Os yw Cymru yn gorffen yn gyntaf neu'n ail yn eu grŵp yng Nghwpan y Byd, byddent yn mynd ymlaen i rownd yr 16 olaf.
Gan ystyried bod ysgol ar ddydd Gwener Rhagfyr 2il a dydd Llun Rhagfyr 5ed, a yw'n bosib cynllunio taith i weld unrhyw un o'r gemau uchod?
Bydd ffeinal y twrnamaint yn cymryd lle yn Stadiwm Lusail, sy'n dal 80,000 o bobl.
Mesuriadau'r cae yw 105 metr wrth 68 metr.
A allwch chi greu model o linellau'r cae gan ddefnyddio gwefan Desmos?
Dyma linellau i gychwyn i ffwrdd: