Amlinelliad o'r pwnc
- Cyffredinol
- Gwybodaeth
Gwybodaeth
Ym 1982 lansiodd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol gystadleuaeth fathemategol ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Mae'r gystadleuaeth yn denu tua mil o gystadleuwyr y flwyddyn o ysgolion Cymru benbaladr. Rhoddir gwobrau i rai sy'n cyrraedd lefel arbennig o uchel, ond prif fwriad y gystadleuaeth yw cynorthwyo ysgolion i greu delwedd o fathemateg fel pwnc i'w fwynhau ac, o'r herwydd, mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth lawn bwysiced os nad yn bwysicach na chyrraedd marc uchel. Mae pob ymgeisydd yn derbyn tystysgrif sy'n nodi iddo gystadlu.
Mwynhad yw problem i ni – o roi min
Yr ymennydd arni.
Ein diléit yw dal ati
Yn sownd nes ei datrys hi.Einion Evans

- Cystadleuaeth 2026
Cystadleuaeth 2026
Yn dilyn llwyddiant parhaol y Gystadleuaeth Fathemategol, a hithau’n dathlu 43 o flynyddoedd eleni, fe'ch gwahoddir yn gynnes i gymryd rhan ynddi. Bydd y papur yn cael ei ddanfon yn ystod Chwefror 2026 at y rhestr o ysgolion isod. Os nad yw eich ysgol ar y rhestr, a hoffwch gymryd rhan, gyrrwch neges e-bost at gareth@mathemateg.com.
- Hen Bapurau
Hen Bapurau


(Nid oes copi electroneg o bapurau 1994 – 2000 ar gael.)




- Atebion
Atebion
Nodyn: Dangosir ychydig o ddull wrth ochr rhai atebion uchod – ond wrth gwrs gall rhai cwestiynau gael eu hateb gyda dull amgen. Os ydych yn gweld unrhyw wall yn yr atebion, gyrrwch y cywiriad i gareth@mathemateg.com
