TGAU Dwy Haen Medi 2025


O fis Medi 2025 ymlaen, bydd y TGAU dwy haen newydd yn cael ei addysgu yng Nghymru. 

Mae mathemateg.com wedi'i ddiweddaru'n ddiweddar i gynnig adnoddau ar gyfer y cwrs hwn.

Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno ein cynllun gwaith llawn ar gyfer y cwrs newydd.

Mae'r ddogfen hon yn mapio ein darpariaeth i'r fanyleb TGAU newydd. (Glas = blwyddyn 7; Coch = blwyddyn 8; Gwyrdd = blwyddyn 9; Piws = blwyddyn 10; Melyn = blwyddyn 11.)

Mae'r daenlen hon yn mapio'r cynllun gwaith i'r unedau 1, 2 a 3 newydd.

Dyma fideo'n crynhoi cynnwys yr holl becynnau gwaith:

Mae gennym gyrsiau newydd ar gyfer blynyddoedd 7 i 11, gydag adnoddau wedi'u trefnu ar y tudalennau canlynol:

Blwyddyn 11 Haen Uwch
Blwyddyn 11 Haen Sylfaenol
Blwyddyn 10 Haen Uwch
Blwyddyn 10 Haen Sylfaenol
Blwyddyn 9
Blwyddyn 8
Blwyddyn 7

Os ydych yn newydd i'r adnoddau, maent wedi'u trefnu i 30 o becynnau gwaith. Er enghraifft, y trydydd pecyn ym mlwyddyn 10 yw "Mesur Siapiau 3". Mae pob pecyn efo'r adnoddau canlynol yn gysylltiedig:

Dyma grynodeb o'r newidiadau mwyaf i'r pecynnau gwaith.

Yn ogystal, mae'r newidiadau canlynol wedi'u gwneud i fformat y pecynnau a'r fideos adolygu:

  • Mae'r brandio wedi newid o ddefnyddio dolen yr hen Twitter i ddolen TikTok.
  • Mae'r fformat ar gyfer labelu'r fideos adolygu ar YouTube wedi newid. Dyma fideo yn egluro'r newidiadau:
  • Mae'r codau QR i gyd wedi'u diweddaru (roedd rhai o'r hen rai wedi stopio gweithio).
  • Mae'r deunydd 'rhifedd' (er enghraifft pecynnau rhifedd, pecynnau gwaith cartref rhifedd) wedi symud i waelod y tudalennau ar gyfer pob blwyddyn unigol. 

Mae gwerslyfrau ar gyfer pob blwyddyn i'w gweld ar y dudalen hon

Mae atebion llawn ar gyfer y deunyddiau, ynghyd a phrofion diwedd uned; arholiadau diwedd blwyddyn; ffug arholiadau TGAU; atebion i becynnau hen gwestiynau arholiad; a mwy, ar gael ar gais: llenwch y ffurflen hon i ofyn am fynediad (os ydych wedi derbyn mynediad o'r blaen, bydd rhaid gofyn eto i gael mynediad i'r holl adnoddau newydd).

Diweddarwyd ddiwethaf: Llun, 18 Awst 2025, 11:48 am