Google Meet
Ar ôl bod yn defnyddio Google Meet i ddarparu gwersi rhithiol am ychydig o wythnosau, dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer ei ddefnyddio’n effeithiol.
(1) Rhannwch lun ar gychwyn y cyfarfod i ddangos pa adnoddau fydd eu hangen ar gyfer y wers.
Rwy’n arfer gwneud hyn trwy rannu fy sgrîn (“Present Now”) a dangos sleid PowerPoint rwyf wedi’i baratoi o flaen llaw. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi drefnu’r adnoddau ar gyfer y wers (yn enwedig os rydych wedi bod yn dysgu’n rhithiol yn ystod y wers flaenorol), ac yn rhoi cyfle i’r dysgwyr i gyd gyrraedd yr ystafell ddosbarth.
(2) Defnyddiwch “visualiser” i fodelu gwaith ar bapur.
O ran dangos y visualiser ar Google Meet, rwy’n ffeindio bod defnyddio’r botwm camera ar Google Meet yn ara deg (yn enwedig os ydych yn newid o gamera arall neu o rannu eich sgrîn). Llawer cyflymach yw rhannu eich sgrîn (“Present Now”) a defnyddio’r ap “Microsoft Camera” i ddangos y visualiser.
Fel hyn, mae’n bosib trefnu eich sgrîn fel bod y cwestiynau ar y chwith a’ch ateb chi ar y dde:
(3) Os rydych yn ffeindio hi’n anodd gwybod pryd i symud ymlaen ar ôl gosod darn o waith, gofynnwch i’r dysgwyr roi eu llaw i fyny yn y cyfarfod os ydynt wedi gorffen y dasg. Fel hyn, gallwch symud ymlaen ar ôl gweld bod cyfran o’r dysgwyr wedi rhoi eu llaw i fyny. (Rwy’n dueddol o ddisgwyl nes bod tri chwarter o’r dosbarth wedi rhoi eu llaw i fyny cyn cyhoeddi’r atebion.)
(4) Os rydych yn defnyddio sleidiau PowerPoint, cofiwch fod hi’n bosib ysgrifennu ar ben y sleidiau drwy “hofran” yn y gwaelod ar y chwith a dewis y beiro.
(5) Olaf, rwy’n dueddol o ddefnyddio ail sgrîn (iPad) i gadw golwg ar sgwrs y wers (y “Meeting Chat”).
Fel hyn, mae'n bosib rhannu'r sgrîn ar y prif gyfrifiadur a dal cadw golwg ar y negeseuon sy'n cyrraedd.