Datblygu Ymresymu Rhifedd trwy ddulliau creadigol



Ym mis Tachwedd 2015, enillodd Ysgol y Creuddyn statws Ysgol Creadigol Arweiniol, sef cynllun sy'n cael ei noddi ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Penderfynwyd rhedeg y prosiect yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer grŵp o ddysgwyr mathemateg ym mlwyddyn 9, sef y set 3 rydw i yn eu haddysgu.


Criw'r prosiect

Ffrwyth llafur y gwaith caled oedd "Gwenwyn Glas", sef ffilm fer mewn arddull ‘Murder Mystery’ wedi ei leoli yn yr ysgol.


Datblygwyd y sgript gyda'r awdur Bethan Gwanas. Hefyd yn cynnig arweiniad i’r dysgwyr yn eu meysydd arbenigol eu hunain oedd yr ymarferwyr creadigol: Eilir Pierce (Cyfarwyddwr Teledu); Iwan Standley (Golygydd) a Leisa Mererid (Actores). Cydlynydd y prosiect oedd Iola Ynyr (Cwmni'r Frân Wen).


Ffilmio'r olygfa efo'r ditectif

Gyda'r cyrsiau TGAU newydd yn cychwyn cael eu haddysgu, rhoddodd y prosiect yma'r cyfle i'r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymresymu rhifedd; sgiliau sy'n hynod o bwysig ar gyfer y TGAU Rhifedd newydd. Trafodwyd y rhestr isod o rinweddau sy'n gwneud mathemategwr da:



Trwy gynhyrchu ffilm fer, roedd yn bosib gweld pob un o'r rhinweddau uchod.
  • Roedd rhaid bod yn ddychmygus wrth greu'r sgript, yn enwedig o ystyried y cyfyngiad o 150 gair a roddwyd i'r sgript gan y cyfarwyddwr. Cafwyd bob math o syniadau creadigol yn yr ystafell sgriptio, cyn setlo ar bwy gafodd ei lofruddio, pwy oedd y bobl o dan amheuaeth, a sut oedd y ditectif yn mynd ati i ddarganfod y llofrudd.
  • Codwyd pob math o gwestiynau wrth roi'r sgript ar waith, o beth oedd cefndir y cymeriadau i'r ffordd orau o osod y propiau mewn golygfa. Unwaith i'r broses olygu gychwyn, roedd rhaid penderfynu beth oedd y drefn orau i'r golygfeydd, a gofyn pa rannau o'r golygfeydd oedd gwir eu hangen.
  • Wrth ffilmio'r golygfeydd unigol, doedd "Take 1" byth yn berffaith. Wrth geisio onglau ffilmio gwahanol a ffyrdd gwahanol o ddweud llinellau, roedd yn bosib gorffen efo rhywbeth a oedd yn well na'r bwriad gwreiddiol. Yn aml mewn mathemateg, tydi rhywun ddim yn gallu ateb yr holl gwestiynau yn syth bin – mae'n rhaid ail-geisio a bod yn barod i wneud camgymeriadau er mwyn gwneud cynnydd.
  • Yn ystod y prosiect, rhoddwyd y dysgwyr mewn grwpiau o tua 8-9 bob un. Ym mhob un o'r grwpiau yma, roedd pawb efo rôl unigol wrth ffilmio, o gyfarwyddo i recordio'r sain i sicrhau dilyniant (continuity). Roedd rhaid gweithio'n systematig i sicrhau bod y broses ffilmio'n rhedeg yn esmwyth – roedd trefn benodol i'r gwaith, gyda phawb yn gorfod cyd-dynnu mewn tîm.
  • Ar ôl castio'r actorion, cafwyd sesiynau dwys yn y llyfrgell ble cafwyd trafodaethau am gefndir y cymeriadau. Eglurwyd pam oedd dwy eneth yn paffio ar goridor yn yr ysgol, a pham roedd un o'r staff yn delio cyffuriau!
  • Roedd dilyniant yn bwysig wrth ffilmio dros gyfnod o fwy nag un diwrnod – sicrhau bod y gwisgoedd yn gyson, bod cliwiau i'r ditectif yn weledol yn y golygfeydd, a bod un olygfa yn llifo i'r nesaf. Lle nad oedd modd gwneud hyn ar gamera, rhoddodd hyn sialens i'r criw golygu!
  • Yn sicr nid oedd yn hawdd cyflawni'r gwaith yma – roedd pawb yn gweithio yn erbyn amser, er i ni gael pum diwrnod llawn i weithio ar y prosiect. Cafwyd dyfalbarhad gan yr actorion wrth iddynt ail-wneud eu golygfeydd, amynedd gan y criw golygu wrth iddynt ddysgu darn o feddalwedd newydd, a brwdfrydedd yn gyffredinol wrth i'r dysgwyr yn aml weithio trwy eu hamser egwyl a'u hamser cinio.

Llyfr lloffion y ditectif

Wedi cwblhau'r prosiect, daeth nifer o bethau yn amlwg i mi fel athro:
  • Nid yw'r dysgwyr mewn set mathemateg yn adnabod ei gilydd o anghenrheidrwydd! Cafwyd y sylw gan fwy nag un dysgwr bod y prosiect wedi bod yn gyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd yn well.
  • Mae'n fanteisiol dod i adnabod dysgwyr tu allan i'r ystafell ddosbarth – trwy ddysgu am gryfderau a ddidordebau unigolion, gall gwersi gael eu cynllunio'n fwy effeithiol.
  • Rhoddodd prosiect estynedig fel yma gyfle i ddod â chymuned yr ysgol yn agosach – cynhaliwyd Première yn yr ysgol yn cael ei fynychu gan y dysgwyr, eu teuluoedd, athrawon a llywodraethwyr.

Trafod sut i ffilmio golygfa

Yn sicr, mi wnes i fwynhau cymryd rhan yn y prosiect yma – edrychaf ymlaen yn awr at ailadrodd y prosiect efo dosbarth arall flwyddyn nesaf!
Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth, 3 Mai 2016, 8:52 pm