Cwricwlwm i Gymru: Asesu

Gyda Cwricwlwm i Gymru’n statudol i bob ysgol uwchradd o Fedi 2023 ymlaen, mae’n amser dros yr wythnosau nesaf i feddwl am roi sglein ar y trefniadau terfynol. Mae hyn yn cynnwys sut i asesu a sut i adrodd i rieni.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru’n nodi bod asesu’n “chwarae tair prif ran yn y broses o alluogi cynnydd dysgwyr:

  • cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
  • nodi, cofnodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser
  • deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion."

O ran adrodd i rieni, mae’r canllawiau’n nodi bod “raid i ysgolion a lleoliadau rannu gwybodaeth am y canlynol â rhieni a gofalwyr:

  • y cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud
  • ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol
  • sut y gellir diwallu ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol gartref
  • eu llesiant cyffredinol yn yr ysgol."

Mae newid mawr yn y canllawiau o ran adrodd yn ôl ar gynnydd, nid cyrhaeddiad. Ond beth yw cynnydd? Mae’r canllawiau’n diffinio cynnydd fel “sut mae dysgwr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn golygu cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth, a mireinio eu sgiliau, i gyd wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.” Nid yw’r canllawiau’n nodi fodd bynnag sut y dylid adrodd yn ôl ar gynnydd – mae hyn wedi’i adael i ysgolion unigol benderfynu.

Yn Ysgol y Creuddyn, rydym wedi mabwysiadu’r diffiniad canlynol o gynnydd:

Hynny yw, cynnydd yw pa mor gyflym (neu araf) y mae cyrhaeddiad dysgwr yn newid. Gall cynnydd hefyd fod yn negatif (atchweliad / regression), i gydnabod (er enghraifft) effaith cromlin anghofio Ebbinghaus.

Felly, i geisio mesur cynnydd, mae angen yn gyntaf ffordd ddibynadwy o fesur cyrhaeddiad. Ond sut mae gwneud hyn? I gychwyn, mae’n rhaid i ni ystyried y dosraniad normal.

Wrth fesur rhywbeth fel taldra, pwysau neu allu mewn pwnc penodol, mae mwy o bobl yn ymddangos yn y canol, a llai o bobl ar y cyrion. Rydym yn gallu gweld hyn o’r ystadegau mae CBAC yn eu cyhoeddi’n dilyn cyfres o arholiadau allanol. Er enghraifft, dyma rai o ganlyniadau arholiadau TGAU Haf 2019 (ffynhonnell: CBAC).

Rydym yn gallu gweld, fel rheol, bod llai o bobl yn cael y graddau ar y cyrion (A*, G) a mwy o bobl yn cael y graddau yn y canol (C, D).

Wrth asesu, ein gwaith fel athrawon yw ceisio adnabod lle mae dysgwr ar y dosraniad normal, ac yna adnabod camau i wella’r lleoliad yma.

Mae nifer o ddulliau safonol o fesur cyrhaeddiad yn erbyn y dosraniad normal.

Mae’r dull cyntaf, Stanines (STAndard NINE), yn hollti’r boblogaeth i mewn i naw carfan wahanol. Mae hyn yn debyg iawn i’r system yn y cwricwlwm blaenorol (lle, yn ystod cyfnod allweddol 3, roedd lefelau 1-8 yn cael eu dyfarnu, ynghyd â pherfformiad eithriadol). Mae hefyd yn adlewyrchu’r naw radd sydd ar gael ar hyn o bryd yn ein system TGAU (A*, A, B, C, D, E, F, G, U).

Mae’r ail system, canraddau (percentiles), yn pennu rhif rhwng 0 a 100 i bawb yn y boblogaeth. Sgôr o 50 sydd yn y canol, a hwn hefyd yw’r sgôr mwyaf cyffredin.

Mae’r drydedd system, SAS (Standard Age Score), yn defnyddio 100 fel y canol, ac fel arfer yn dyfarnu sgôr rhwng 69 a 131. Mae’r profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol yn defnyddio’r system yma.

Wrth ddylunio system asesu newydd, rhaid defnyddio profiad gwledydd eraill sydd wedi cael gwared â lefelau’n ddiweddar. Un wlad o’r fath yw Lloegr, a wnaeth gael gwared â lefelau ym Medi 2014. Mae’r system bresennol yn gofyn i athrawon bennu un o dri chategori i ddysgwyr yng nghyfnodau allweddol 1 a 2: “Working towards the expected standard (WTS)”, “Meeting the expected standard (EXS)”, a “Working at a greater depth than the expected standard (GDS)”. Mae’r guru asesu Daily Christodoulou’n dadlau nid yw’r system yma’n ffit i’w bwrpas.

Dychmygwch bedwar dysgwr sydd efo gwir gyrhaeddiad fel sy’n cael ei ddangos yn y diagram isod.

Er bod Kelly a Dafydd yn agos at ei gilydd o ran eu cyrhaeddiad, maent yn derbyn “labeli” gwahanol mewn system tair haen. Efallai y bydd Kelly’n derbyn cymorth ychwanegol, tra bod Dafydd yn derbyn dim? Yn yr un modd, mae gwir gyrhaeddiad Gruff a Cerys yn debyg iawn, ond maent yn derbyn labeli gwahanol. Efallai y bydd Cerys yn cael mynediad at weithgareddau Mwyaf Galluog a Thalentog, ond tybed a fyddai Gruff yn elwa o’r rhain hefyd?

Anfantais arall i’r system WTS/EXS/GDS yw bod hi’n anodd dangos cynnydd yn y system yma, rhywbeth sydd yn greiddiol i’r cwricwlwm newydd. O dderbyn y label EXS, yr unig ffordd o wneud cynnydd yw wedyn derbyn y label GDS. Ond beth yw’r cam nesaf ar ôl hynny? Ydi pawb sy’n derbyn y label GDS yn rhydd i eistedd yn ôl ar eu rhwyfau? A beth am y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n derbyn y label WTS? Mae’n debyg bydd y dysgwyr yma’n derbyn y label WTS trwy gydol ei siwrnai yn yr ysgol. Ydi’r dysgwyr yma heb wneud cynnydd o gwbl? (Go brin!) Mae’r sefyllfa yma’n amlygu ei hun hefyd yn y canlyniadau o’r profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol. Dychmygwch fod yn ddysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n derbyn y canlyniadau canlynol yn y prawf rhifedd gweithdrefnol.

Blwyddyn 2: Llai na 70
Blwyddyn 3: Llai na 70
Blwyddyn 4: Llai na 70
Blwyddyn 5: Llai na 70
Blwyddyn 6: Llai na 70
Blwyddyn 7: Llai na 70
Blwyddyn 8: Llai na 70
Blwyddyn 9: Llai na 70

Sut fyddech chi’n teimlo am rifedd erbyn diwedd blwyddyn 9? A oes dim cynnydd o gwbl wedi’i wneud?

Tra yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst (amser maith yn ôl!), roeddwn yn cadw llyfr lloffion yn cynnwys nodiadau ar amrywiaeth o destunau. Yng nghefn y llyfr lloffion, roeddwn wedi penderfynu ysgrifennu’r canlynol ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol:

A oes cynnydd i’w weld uchod? Oes!

  • Erbyn diwedd blwyddyn 8 rwyf wedi dysgu defnyddio collnod yn “ ’sgwennu”.
  • Erbyn diwedd blwyddyn 9 rwyf wedi dysgu defnyddio to bach yn “ôl”.
  • Erbyn diwedd blwyddyn 9 rwyf wedi cofio bod angen cynnwys atalnod llawn ar ddiwedd brawddegau.

A oes mwy i’w ddysgu? Oes!

  • Mae angen i mi gofio ysgrifennu ‘f’ nid “F” ym mhob man.
  • Efallai gellid dadlau fy mod angen dysgu sut i ysgrifennu jôcs gwell!

Er fy mod wedi bod yn gyson yn yr un set yng Nghymraeg trwy gydol fy nhaith trwy’r ysgol (ac felly wedi derbyn “label” cyson), mae’n glir o’r uchod fy mod wedi dangos cynnydd yn ystod y daith. Mae’n bwysig ein bod yn casglu ac yn dal y cynnydd yma.

Egwyddorion system asesu Ysgol y Creuddyn:

  1. Rydym yn defnyddio graddfa eang ar gyfer mesur cyrhaeddiad. Mae hyn yn osgoi defnyddio labeli sydd yn rhy lydan, ac felly’n rhoi gwell cyfle o allu mesur cynnydd.
  2. Rydym yn mesur cynnydd ar draws blynyddoedd, nid o fewn blwyddyn unigol.
  3. Defnyddio’r system No More Marking i adnabod, ar gyfer bob Maes Dysgu a Phrofiad, band cyrhaeddiad pob blwyddyn.
  4. Mapio asesiadau pynciau unigol i’r band cyrhaeddiad, gan ddefnyddio system debyg i’r system Lefel A (trosi marc crai i farc graddau marciau unffurf (GMU)).

EGWYDDOR 1: Defnyddio graddfa eang.

Rydym yn asesu gan ddefnyddio’r raddfa 0 i 200, sef y raddfa ddiofyn ar y system No More Marking. Nid yw hyn yn golygu bod angen diffinio neu adnabod 200 lefel o gyrhaeddiad! Yn hytrach mae’n rhoi digon o le i allu mesur cyrhaeddiad dysgwr o gychwyn blwyddyn 7 hyd at ddiwedd blwyddyn 11 – ac felly rhoi digon o le i allu mesur cynnydd.

Bydd y dysgwr efo’r cyrhaeddiad uchaf yn yr ysgol yn derbyn sgôr sy’n agos at 200 (dysgwr sy’n debygol iawn o dderbyn gradd A* ar lefel TGAU), tra bod y dysgwr efo’r cyrhaeddiad isaf yn yr ysgol yn derbyn sgôr sy’n fwy agos at 0 (fel arfer dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol ym mlwyddyn 7). OND! Bydd y dysgwr efo’r sgôr isaf eleni ddim yn debygol o fod efo’r sgôr isaf yn y dyfodol: bydd y cynnydd a wnaed gan y dysgwr yma’n galluogi i’r sgôr gynyddu dros amser, ac felly rydym yn osgoi’r stigma o gael “llai na 70” pob blwyddyn.

EGWYDDOR 2: Mesur cynnydd ar draws blynyddoedd.

O ddefnyddio’r un raddfa o flwyddyn 7 hyd at flwyddyn 11, mae’n rhoi cyfle i ni weld sut mae cyrhaeddiad dysgwr yn newid o un flwyddyn i’r nesaf (ac felly gweld pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud). Mae’n bosib gwobrwyo dysgwyr sydd wedi gwneud llawer o gynnydd, neu dargedu dysgwyr sydd efo cynnydd isel neu gynnydd negatif.

Enghraifft



Cyrhaeddiad   
Cynnydd
Blwyddyn 7
52
Blwyddyn 8
74 +22
Blwyddyn 9
110 +36
Blwyddyn 10
115 +5
Blwyddyn 11   
138 +23

EGWYDDOR 3: Defnyddio No More Marking i adnabod band cyrhaeddiad pob blwyddyn.

Mae’r wefan No More Marking yn defnyddio system dyfarniad cymharol (“comparative judgement”) i asesu darn o waith. Yn lle marcio pob darn o waith yn unigol, mae dau ddarn o waith yn cael eu dangos ar yr un sgrin, a’r unig gwestiwn yw “pa ddarn o waith yw’r un gorau?”. Wrth ystyried marcio tasgau penagored, mae’r wefan yn honni bod y system yma’n fwy cywir ac yn gyflymach na marcio traddodiadol.

Marcio traddodiadol

 

Marcio un darn o waith ar y tro.

 

Tebyg i:


Un person yn sefyll o’ch blaen.
Y cwestiwn yw “pa mor dal yw’r person”?
Barn wahanol gan “farcwyr” gwahanol am yr ateb cywir.

Dyfarniad cymharol

 

Cymharu dau ddarn o waith ar y tro.

 

Tebyg i:


Dau berson yn sefyll o’ch blaen.
Y cwestiwn yw “pa berson yw’r talaf”?

Haws dod i’r casgliad cywir.

Rydym wedi cynnal peilot ble mae pawb ym mlynyddoedd 7 i 11 wedi cwblhau’r un dasg asesu mewn mathemateg:

  • Ar ddarn o bapur plaen, ysgrifennwch bob dim rydych yn gwybod sydd yn wir mewn mathemateg.
  • Ceisiwch gynnwys y fathemateg fwyaf anodd rydych yn gyfarwydd efo.
  • Cewch gynnwys pethau fel ffeithiau, fformiwlâu ac enghreifftiau.
  • Gallwch gynnwys unrhyw ddarn o fathemateg (e.e. rhif, algebra, siâp, trin data).

Dyma’r canlyniadau ar gyfer y tro cyntaf y cynhaliwyd y dasg (yn Nhachwedd 2019):

Dyma’r canlyniadau ar gyfer yr ail dro y cynhaliwyd y dasg (yn Rhagfyr 2022):

Mae’r graffiau’n dangos bod dysgwyr yn gwneud cynnydd (yn gyffredinol) mewn mathemateg wrth fynd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11, gan i’r diagramau blwch a blewyn oren ar gyfer blwyddyn 11 fod yn uwch i fyny na’r diagramau blwch a blewyn glas ar gyfer blwyddyn 7.

Mae’n bosib hefyd dadansoddi

  • bod y mwyaf o gynnydd yn cael ei wneud rhwng blynyddoedd 8 a 9 (efallai gan fod y nifer o wersi’n cynyddu o 3 yr wythnos ym mlwyddyn 8 i 4 yr wythnos ym mlwyddyn 9?)
  • nid yw’r flwyddyn 11 presennol mor gryf â’r flwyddyn 11 yn 2019.
  • mae ambell i allanolyn ym mlwyddyn 10 sydd ddim wedi gwneud y cynnydd disgwyliedig (yn wir, maent yn perfformio’n is na bron pawb ym mlwyddyn 7).

Mae’r graffiau uchod (ble’n dechnegol rydym yn ystyried “cyfartalu fertigol”, neu “vertical equating”) yn ein galluogi i osod y bandiau cyrhaeddiad canlynol ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd:

Blwyddyn 7: 10 i 140
Blwyddyn 8: 30 i 150
Blwyddyn 9: 20 i 170
Blwyddyn 10: 50 i 170
Blwyddyn 11: 50 i 200

Mae’n bwysig nodi na nid y dasg No More Marking sy’n gosod y lefel cyrhaeddiad ar gyfer dysgwr unigol; yn hytrach mae’n gosod y band o fewn ble fydd cyrhaeddiad dysgwr unigol yn gorwedd rhwng.

Sylwch hefyd nid yw’r bandiau’n llinol (er enghraifft mae band blwyddyn 9 yn cychwyn ar 20, sy’n is na man cychwyn blwyddyn 8). Mae hyn yn cydnabod y ffaith nad yw dysgu’n broses llinol, rhywbeth sydd ddim yn cael ei gydnabod mewn “llwybrau dysgu”. Mae angen adolygu’r bandiau’n rheolaidd i gydnabod perfformiad gwahanol flynyddoedd gwahanol.

EGWYDDOR 4: Mapio asesiadau pynciol i’r band cyrhaeddiad

Ar ddiwedd blwyddyn academaidd, mi fydd gan bob pwnc neu faes dysgu a phrofiad unigol amrywiaeth o asesiadau wedi’u cwblhau dros y flwyddyn. Er mwyn gallu cymharu’n deg cyrhaeddiad ar draws pynciau neu feysydd dysgu a phrofiad, rydym yn defnyddio system o fapio asesiadau i’r band cyrhaeddiad priodol. Mae hyn yn debyg i’r system a ddefnyddir yn yr arholiadau Lefel A, ble mae marc crai yn cael ei newid i’r raddfa marciau unffurf (GMU).

Enghraifft

Mae Joe Bloggs wedi derbyn y marciau canlynol yn ei brofion mathemateg blwyddyn 7 eleni.

Prawf Croeso i Ysgol y Creuddyn: 57%
Prawf Onglau: 64%
Prawf Trin Data ac Ystadegaeth: 43%
Prawf Canrannau: 56%
Arholiad Diwedd Blwyddyn 7: 51%

Mae’r adran fathemateg yn dyfarnu cyfartaledd pwysol (“weighted average”) o 53% i Joe Bloggs, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar yr arholiad diwedd blwyddyn.

Mae’r ganran 53% yn cyfateb i ganradd 56%, sy’n golygu bod Joe wedi perfformio’n well na 56% o’i gyfoedion ym mlwyddyn 7. (Mae angen newid i ganradd i gydnabod bod asesiadau gwahanol efo anhawster gwahanol.)

Y band cyrhaeddiad ar gyfer blwyddyn 7 eleni yw 10 i 140. Lled y band yw 130, felly rydym yn lluosi canradd Joe efo 130 ac yna adio 10 i roi ei sgôr terfynol o 83. Gellid cymharu hwn yn awr yn erbyn sgorau tebyg o bynciau gwahanol. Ac ym mlwyddyn 8, os yw sgôr Joe nawr yn 105, yna gellid dyfarnu sgôr cynnydd i Joe ym mlwyddyn 8 o +22.

Manteision y System

  • Gallu adnabod yn sydyn carfannau sydd angen cymorth (rhai efo cyrhaeddiad isel neu efo cynnydd isel neu negatif).
  • Tasg asesu traws ysgol yn adnabod allanolion (dysgwyr iau sy’n perfformio’n eithriadol, neu ddysgwyr hŷn sy’n tanberfformio).
  • Cynnig hyblygrwydd yn sut mae adrannau unigol yn asesu; y system fapio yn sicrhau cysondeb ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad.
  • Yn y tymor hir, yn gallu cael ei ddefnyddio i farnu perfformiad blwyddyn gyfan, trwy gymharu perfformiad y flwyddyn efo perfformiad blynyddoedd cyffelyb yn y gorffennol. Hyn yn ei dro yn gallu arwain at ragfynegi graddau TGAU posib i’r flwyddyn.

Anfanteision y System

  • Anodd ei ddeall yn y lle cyntaf – angen sicrhau bod hyfforddiant digonol i holl rhanddeiliaid yr ysgol yn ei le.
  • Yn berwi perfformiad blwyddyn gyfan i lawr i un rhif – angen sicrhau bod yr adroddiad diwedd blwyddyn yn cynnwys llawer mwy na’r rhif yma.
  • Tipyn o waith gweinyddol ei angen i sefydlu’r system – ond gobeithio bydd yr amser yma’n talu ôl ar ei ganfed yn y dyfodol.

Adrodd i Rieni

Dyma rydym wedi penderfynu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol llawn i rieni.

(1) Tudalen Cynnwys


(2) Pwyntiau clod

Mae’r dudalen yma’n adrodd yn ôl ar y pwyntiau clod a ddyfarnwyd trwy’r system ClassCharts. Mae tiwtoriaid dosbarth yn dewis sylwadau o fanc sylwadau pwrpasol ar SIMS. Mae’r lliwiau ar gyfer y pwyntiau yn rhoi’r rhif mewn cyd-destun (coch / oren / melyn / gwyrdd), trwy gymharu efo pwyntiau gweddill y flwyddyn.


(3) Pwyntiau negatif

Mae’r dudalen yma’n adrodd yn ôl ar y pwyntiau negatif a ddyfarnwyd trwy’r system ClassCharts. Eto mae’r tiwtoriaid dosbarth yn gyfrifol am ddewis y sylwadau yn y tabl.


(4) Presenoldeb


(5) Lles

(6) Profion Cenedlaethol

Mae fformat y tudalennau yma i’w gadarnhau dros yr wythnosau nesaf. Pan fyddent wedi’u cwblhau, bydd y blog yma’n cael ei ddiweddaru!

(7) Adroddiad ar bynciau unigol

Mae’r adroddiad yn gorffen efo tudalen unigol ar gyfer pob pwnc.


Mae’r graddau agwedd at ddysgu / ymddygiad yn defnyddio’r diffiniadau canlynol:


Mae’r diagram yn dangos y sgôr safonedig mewn coch, ac yn ei roi mewn cyd-destun mewn piws. (Mae’r diagram blwch a blewyn piws yn rhannu’r holl flwyddyn i mewn i bedwar rhan a elwir yn chwarteli.) Mae’r cynnydd o’i gymharu â llynedd yn cael ei ddangos yn y tabl sy’n dilyn, gyda’r lliwiau eto’n rhoi cyd-destun i’r rhifau.

I orffen, mae’r sylwadau’n darparu ffyrdd o wella’r cyrhaeddiad yn y dyfodol, gan gofio’r gofynion statudol: rhaid i’r adroddiad ddangos

  • y cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud
  • ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol
  • sut y gellir diwallu ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol gartref

I gloi

Gobeithio bod y blog yma wedi darparu ychydig o syniadau parthed sut i fynd ati i asesu ac adrodd i rieni yn y cwricwlwm newydd. Nid hwn yw diwedd y stori – o bell ffordd! – mae’n debyg bydd ein syniadau’n cael eu mireinio a’u gwella dros yr wythnosau nesaf. Croesawaf unrhyw adborth trwy gyfrwng trydar (@mathemateg) neu trwy e-bost (gareth@mathemateg.com).

Diweddarwyd ddiwethaf: Sul, 16 Ebrill 2023, 8:52 am