Rhifaeth
Dwi wedi datblygu cyflwr newydd yn ystod y lockdown ‘ma.
Rhifaeth.
Mae’n anodd disgrifio beth yw’r cyflwr hwn, ond y tro diwethaf i mi ei deimlo oedd neithiwr. Yn ystod cyflwyniad y Prif Weinidog ar y teledu. Fe ddaeth y sleid yma i fyny ar y sgrin, ac mi o’n i’n gwybod yn syth.
Rhifaeth.
Ar gyfer Cymru felly, beth yw’r ‘COVID Alert Level’?
Nid oes sicrwydd ynghylch gwerth R, ond gadewch i ni ddweud ei fod, ar hyn o bryd, yn 0.8.
Yn ôl gwefan @LloydCymru, cyfanswm nifer yr achosion hyd at Fai 11eg yng Nghymru oedd 11,468.
Felly, yn ôl yr hafaliad uchod, mae’r ‘COVID Alert Level’ ar gyfer Cymru yn 0.8 + 11,468 = 11,468.8?
Rhifaeth.
Ymddangosodd sleid arall yn ystod y cyflwyniad. Fe wnaeth pennaeth mathemateg yng Nghaerdydd grynhoi pethau’n eitha da...
Rwyf wedi profi rhifaeth sawl gwaith yn ystod y lockdown.
Mae’r pethau lleiaf yn gallu sbarduno’r cyflwr.
Darllenais ‘Llyfr Glas Nebo’ yn ddiweddar, llyfr sydd wedi ennill llond trol o wobrau, gan gynnwys y “Cwpan y Byd” llyfrau. Mi wnes i fwynhau’r darllen yn arw – roedd y testun o dan sylw yn addas iawn i’r cyfnod sydd ohoni – ond bu bron i mi roi’r llyfr i lawr ar dudalen 5. Pam?
Rhifaeth.
Mae Siôn, bachgen oed ysgol sydd yn un o gymeriadau’r llyfr, yn disgrifio derbyn gwersi gan ei fam ar gychwyn y llyfr.
“Pethau fel adio a darllen, dim fatha oeddan ni’n gwneud yn ‘rysgol, dim graffiau na thablau na dim byd fel’na.”
“Ac wedyn ar ôl adio a thynnu, doedd ‘na ddim maths ar ôl i wybod.”
“Felly mi ddeudodd hi cyn belled â ‘mod i’n treulio awran yn sgwennu bob dydd, doedd hi ddim am swnian arna i eto”.
Fel mae’n digwydd, roedd awdures y llyfr, Manon Steffan Ros, wedi ysgrifennu colofn o'r enw "Rheolau Ysgol Ni" yng nghylchgrawn Golwg yn ystod yr wythnos roeddwn i’n darllen y llyfr.
“Rheol 3. Fe wna i eich helpu chi hyd eithaf fy ngallu, ond bydd raid i chi sefyll ar eich traed eich hunain pan mae'n dod i Faths.”
Ac ymddangosodd y neges hon ar Ebrill 23ain.
Beth fyddai’r ymateb wedi bod pe bai’r neges wedi gorffen “efo’i ddarllen” yn lle “efo’i faths”?
Mae’r seicolegydd esblygiadol David Geary wedi datblygu’r syniad fod yna ddau fath o wybodaeth:
- Gwybodaeth fiolegol gychwynnol (biologically primary knowledge).
- Gwybodaeth fiolegol eilaidd (biologically secondary knowledge).
Mae’r math gyntaf o wybodaeth yn bethau rydym wedi esblygu i ddatblygu’n naturiol. Er enghraifft, y gallu i gyfathrebu â’n gilydd ar lafar; dysgu sut i gyd-weithio, y gallu i symud o le i le.
Nid yw’r ail fath o wybodaeth yn cael ei ddatblygu’n naturiol. Yn wir, un o brif bwrpasau addysg yw ceisio datblygu’r wybodaeth eilaidd yma – gwybodaeth sy’n cynnwys mwy neu lai yr holl fathemateg sy’n cael ei ddysgu ar lefel ysgol. Fel y dywed Geary:
“We cannot expect a universal motivation for secondary learning. Some people will of course like to learn new things, especially once they have the basics mastered, but the goal is universal education, not just the education of the curious and cognitively able. For most children, the goal to learn secondary competencies in school is competing against a strong motivation to engage in activities that flesh out primary abilities, such as social play or other social activities."
Gyda bron bob disgybl yn dysgu o adref ar hyn o bryd, mae agwedd pobl tuag at fathemateg yn fwy pwysig nag erioed. Ydi, mae dysgu mathemateg yn anodd, ond dim ond oherwydd ei fod yn wybodaeth fiolegol eilaidd. Gyda gwaith caled, a’r agwedd gywir, mae pawb yn gallu gwneud cynnydd yn y pwnc. Yn anffodus, mae’n hawdd iawn gwyro oddi wrth y llwybr. Rwy’n gweld hyn fy hun ar hyn o bryd o ran faint o ddysgwyr sy’n cyflwyno gwaith i’w farcio ar lein i mi:
Blwyddyn 10 Set 1: Y ganran sy’n cyflwyno gwaith i’w farcio yn ystod y lockdown.
Wythnos 1 |
Wythnos 2 |
Wythnos 3 |
Wythnos 4 |
85% |
60% |
50% |
45% |
Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae mwy a mwy o ddysgwyr yn colli’r cymhelliant i ddysgu, ac mae’r rhifaeth ynof fi yn gwaethygu.
Dyw pethau ddim yn gwella wrth geisio gosod ambell i bos ysgafn ar y we, er enghraifft y pos isod.
Mentrais osod y pos ar safle instagram yr ysgol, a tra bod rhai wedi mentro cynnig ateb i’r pos, roedd eraill yn cynnig sylwadau negyddol. Ydi, mae plant yn gallu bod yn greulon weithiau.
Rwyf wedi penderfynu peidio gosod mwy o bosau am y tro.
Rhifaeth unwaith eto.
Efallai cawn achubiaeth gan y llywodraeth, sydd wedi cyhoeddi rhestr o adnoddau ar gyfer bob pwnc yn ddiweddar: https://hwb.gov.wales/dysgu-o-bell/adnoddau/
Agorais y dudalen yn eiddgar i weld pa adnoddau mathemateg oedd ar gael i ddysgwyr oed uwchradd. Yr ateb: dim llawer.
Roedd y dewis yn fwy eang ar gyfer pynciau eraill, fodd bynnag...
Felly beth yn union yw rhifaeth?
Ydi o'n deimlad?
Yn emosiwn?
Yn awch?
Mi wnâi adael i chi wybod os byddai’n gwella o’r cyflwr ond, ar hyn o bryd, mae’n drwm arnaf.