Hen Bapurau Arholiad


Llynedd, derbyniais rodd o hen bapurau arholiad yn dyddio'n ôl i'r 1930au, ac rwyf wedi bod wrthi'n eu digideiddio dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r papurau i'w gweld ar y dudalen hon.

Diddorol yw nodi sut mae steil y cwestiynau wedi newid dros y blynyddoedd. Yn 1938, un o'r cwestiynau cyntaf oedd am fewnforio gwin o Ffrainc.


Roedd rhaid hefyd defnyddio tablau i ateb cwestiynau ar drigonometreg.


Yn 1941, roedd rhaid cyfrifo cyfradd llog buddsoddiad.


Yn 1958, roedd rhaid cyfrifo pris glo.


Ac yn 1971, roedd rhaid gweithio efo rhifau deuaidd.


Mae hefyd yn ddiddorol gweld sut mae'r arholiad Lefel A wedi newid dros y blynyddoedd. Dyma'r cwestiwn cyntaf ar y papur dros y degawdau...

1970


1980


1990


2010


2019 (dim arholiad yn 2020 – COVID).


Tybed a oes gan rywun mwy o bapurau, i lenwi'r blynyddoedd coll ar y dudalen? Os oes, gyrrwch nhw draw gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost gareth@mathemateg.com, os gwelwch yn dda.

Diweddarwyd ddiwethaf: Sadwrn, 23 Awst 2025, 11:40 am