Adnoddau TGAU Rhifedd
Dros y chwe mis diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio efo CBAC a chwmni Cynnal i greu set o adnoddau ar gyfer y TGAU Rhifedd newydd. Mae'r adnoddau bellach ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan adnoddau CBAC; dyma grynodeb o rai o'r deunyddiau sydd ar gael.
Adnodd rhyngweithiol ble mae'n rhaid trefnu'r dillad ar y lein fel bod yr ateb lleiaf ar yr ochr chwith a'r ateb mwyaf ar yr ochr dde. Os ydych yn trefnu'r dillad yn gywir, maent yn aros ar y lein; fel arall maent yn disgyn i'r baw! Mae testunau'n cynnwys hafaliadau; cyfartaleddau ac amrediad; a ffracsiynau, degolion a chanrannau.
Adnodd rhyngweithiol ble mae'n rhaid symud ymlaen neu'n ôl mewn amser - unai fesul diwrnod fel yr uchod, neu efallai fesul awr neu fesul munud.
Casgliad o bosau rhyngweithiol i ddatblygu ymresymiad rhesymegol. Fersiynau ar-lein (marcio gan y cyfrifiadur) neu all-lein (argraffu i'w defnyddio yn y dosbarth) ar gael.
Taflen waith ble mae'n rhaid penderfynu pa siop i'w ddefnyddio er mwyn prynu set o gynhwysion ar gyfer parti Megan.
Cyfle i ymarfer sgiliau cyfrifiannell trwy deipio symiau gwahanol i mewn i'r peiriant a derbyn gair yn ôl trwy ddal y cyfrifiannell ben-ei-lawr. Cyfle hefyd i ysgrifennu stori eich hun gan ddefnyddio'r banc o eiriau sy'n cael ei ddarparu.
Mesurwch yr ongl botio er mwyn clirio'r bwrdd o'r peli. Fel yr holl adnoddau eraill, darperir atebion llawn a fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r adnodd.
Gweithgaredd ble mae'n rhaid prosesu llawer o wybodaeth er mwyn trefnu taith David o Gaergybi i Gaerdydd.
Casgliad o adnoddau i ddatblygu llythrennedd o fewn gwersi mathemateg. Mae'r deunydd yn cynnwys taflenni ble mae'n rhaid adnabod y math o swm sydd raid ei wneud mewn cwestiwn (adio, tynnu, lluosi neu rannu); brawddegau ble mae'n rhaid penderfynu os oes camgymeriad mathemategol neu gamgymeriad ieithyddol; a phosteri (fel yr uchod) sy'n dangos ffyrdd gwahanol o gynrychioli adio, tynnu, lluosi a rhannu.
Cyfres o ddeg cyflwyniad Pwynt Pŵer rhyngweithiol ble mae'n rhaid datrys problem eiriol. Darperir adborth os yw'r opsiwn anghywir yn cael ei ddewis ar adeg benodol o'r cyfrifiadau.
Banc o gwestiynau arholiad ar y testunau canlynol: trionglau ongl sgwâr; onglau; cyfaint; perimedr ac arwynebedd; locysau. Argraffwch y set gyflawn o gwestiynau i'w cwblhau neu ceisiwch 5 o'r cwestiynau ar hap yn rhyngweithiol ar y cyfrifiadur.
11. Rhifedd o gwmpas y cartref
Detholiad o bum hen gwestiwn arholiad, gyda chyfle i weld yr ateb fel cynllun marcio'r bwrdd arholi; yn ysgrifenedig; neu fel clip fideo.
Set o gardiau ble mae'n rhaid defnyddio'r cliwiau i ddarganfod cyflogau chwaraewyr y tîm a'u rheolwr. Cyfle i ymarfer canrannau, ffracsiynau a degolion yn ogystal â chael breuddwydio am ennill cyflogau mor uchel!
Set o gardiau yn defnyddio'r meddalwedd Tarsia. Gweithgareddau amser; gwaith rhif; hafaliadau; rhifau cyfeiriol a degolion ar gael.
Adnodd rhyngweithiol i drafod y mathau gwahanol o gwestiynau sydd i'w gweld mewn arholiadau mathemateg.
Set o fwydlenni mathemategol er mwyn adolygu ar ddiwedd y cwrs. Bwydlen ar gael ar gyfer pob un o'r tair haen (sylfaenol; canolradd; uwch).
Cofiwch ymweld â gwefan adnoddau CBAC i weld pa adnoddau eraill sydd ar gael...
Dr. Gareth Evans
Ebrill 2015.