Click here to see an English version of this blog.

Yn ystod mis Mawrth 2015, yn ystod Diwrnod Pi, mynychais #mathsconf2015 ym Mirmingham.

Trefnwyd #mathsconf2015 gan @LaSalleEd

Rhoddwyd un o'r sesiynau gan Danielle Bartram, sy'n gyfrifol am y wefan ddefnyddiol www.missbsresources.com. Yn dychwelyd adref, ac yn darllen blog Danielle, ffeindiais fy hun yn cytuno efo'r paragraff canlynol ar ei blog:

“I can’t do maths” has become a common phrase said by many people. It has turned into a socially acceptable phrase; however, it isn’t socially acceptable to say “I can’t read”. As a country we are breeding a self-fulfilling prophecy in allowing teachers, parents, students, television shows, and friends to say the words “I can’t do maths” without challenging the belief. We are saying it is okay to be rubbish at maths and allow students and peers to see maths as unimportant.

Yn ystod sesiwn Danielle, dangoswyd y fideo canlynol, sy'n dangos agweddau negyddol tuag at fathemateg yn niwylliant America.

Penderfynais weld os oedd agweddau tebyg yng Nghymru. Ni chefais fy siomi...

Neges gan Elin Fflur i gychwyn – digon ysgafn! – ond yn dechrau'r patrwm o orfod gwneud hwyl ar ben mathemateg wrth sôn amdano...


Ar ddiwedd mis Mawrth, roeddwn yn gwrando ar Radio Cymru i raglen Beti George "Beti a'i Phobol". Ar rifyn Mawrth 29ain, roedd Beti yn cyfweld Gareth Ffowc Roberts, sy'n fathemategydd ac yn awdur. Ar ddechrau'r sgwrs, roedd Gareth yn sôn am atgof plentyndod o gofnodi rhifau ceir wrth basio, rhywbeth a oedd yn dangos diddordeb cynnar mewn mathemateg. Defnyddiodd Beti'r gair "afiach" i ddisgrifio hyn; diddorol yw nodi'r cyfieithiad Saesneg o'r gair hwn:

Cyfieithiad Google Translate o'r gair "afiach"

Tybed a fyddai Beti wedi defnyddio'r un gair efo gwestai gwahanol, dywed Elin Fflur yn sôn am atgof plentyndod o ganu?....

Yn ystod Ebrill, darlledodd S4C rifyn arbennig o'r rhaglen gomedi Dim Byd, yn sbwffio'r gyfres Jabas o'r 1980au. Dwi'n ffan fawr o Dim Byd fel arfer, ond siom oedd y bennod yma, yn enwedig o ystyried y darn yma o'r sgript:

"Ond ti'n cofio dim am y gwaith cartref sydd genna ni Ruth"... "Wfft i waith ysgol am y dydd dwi'n meddwl. Mae'n ddiwrnod lot rhy neis i dreulio'n gwneud rhyw syms diflas".

(1 munud 30 eiliad i mewn i'r clip fideo uchod.)

Eto yn ystod mis Ebrill, danfonodd y cyn-bêl-droediwr Owain Tudur Jones y neges trydar ganlynol yn dilyn ymweliad â'i hen ysgol.

Ym mis Tachwedd, danfonodd ysgol gynradd ym Mhontypridd y neges trydar ganlynol yn dangos taith ysgol:

Dros yr haf, roeddwn wedi penderfynu herio agweddau negyddol tuag at y pwnc, felly atebais i'r neges uchod efo dolen i ddogfen ar wefan National Numeracy am agweddau tuag at fathemateg.

Nodwch fod y neges wreiddiol wedi derbyn 11 "ffefryn"; tybed a fyddai'r ymateb wedi bod yr un peth pe bai'r gair "Cymraeg" wedi ymddangos yn lle'r gair "Mathemateg"?

Gwelais y neges olaf yn hwyr ym mis Rhagfyr – dim byd o'i le efo'r erthygl! – y llun a oedd yn peri gofid y tro hyn.

Felly sut dylid gwella'r canfyddiad o'r pwnc? A pham dylid hyn fod yn bwysig? Mae'r dyfyniad canlynol yn dod o Arolwg Rhifedd y wefan National Numeracy.

Poor numeracy – or everyday maths - is a big issue in the UK; arguably the biggest single education and skills issue facing the country. In 2012, the Skills for Life survey showed that around 4 out of 5 adults have a level of numeracy below the equivalent of a C at GCSE, with 49% of adults at a level expected of primary school children. Research commissioned by National Numeracy and carried out by Pro Bono Economics estimates that this results in a cost to the economy of up to £20.2 billion annually. This is 1.3 % of the UK’s GDP and costs UK employers around £3.2 billion per year.

Tydi newid agwedd ddim yn digwydd dros nos. Rwy'n disgwyl gweld mwy o negeseuon trydar ag eitemau yn y cyfryngau yn portreadu agwedd negyddol tuag at fathemateg yn 2016. Rhaid ceisio newid yr agweddau yma fodd bynnag – rhyw ddydd, gobeithio, bydd dweud "dwi'n methu gwneud maths" mor annerbyniol a dweud "dwi'n methu darllen".

Diweddarwyd ddiwethaf: Sul, 3 Ionawr 2016, 4:26 pm