Newyddion

Gwersi Cyflenwi

 
Llun o Gareth Evans
Gwersi Cyflenwi
gan Gareth Evans - Mercher, 18 Mawrth 2026, 10:58 am
 

40 o WERSI CYFLENWI MATHEMATEG – PAROD I’W DEFNYDDIO!

Yn chwilio am adnoddau diddorol ar gyfer gwersi cyflenwi? Dyma gasgliad cynhwysfawr o 40 o wersi mathemateg, wedi'u hawduro fel rhan o brosiect diweddar efo CYDAG.

Beth sydd ar gael?

  • Pob gwers yn cynnwys nodyn cyflenwi clir ar gyfer arweiniad hawdd.
  • Taflen waith sy’n ffitio ar UN ochr A4 – syml a threfnus.
  • Atebion llawn wedi’u cynnwys ar gyfer marcio cyflym.
  • Amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a heriol.

Perffaith ar gyfer:
  • Athrawon cyflenwi.
  • Adrannau mathemateg.
  • Gwersi adolygu neu atgyfnerthu.

Arbedwch amser, lleihau straen, a sicrhau gwersi effeithiol – hyd yn oed ar fyr rybudd!

PDF: https://www.mathemateg.com/mod/resource/view.php?id=7393
Word: https://www.mathemateg.com/mod/resource/view.php?id=7394

#Mathemateg #AddysgCymru #Athrawon #AdnoddauAddysg #GwersiCyflenwi