Newyddion

Cystadleuaeth Fathemategol Genedlaethol Blwyddyn 8

 
Llun o Gareth Evans
Cystadleuaeth Fathemategol Genedlaethol Blwyddyn 8
gan Gareth Evans - Sul, 8 Chwefror 2026, 10:14 pm
 

Ym 1982 lansiodd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol gystadleuaeth fathemategol ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Mae'r gystadleuaeth yn denu tua mil o gystadleuwyr y flwyddyn o ysgolion Cymru benbaladr. Rhoddir gwobrau i rai sy'n cyrraedd lefel arbennig o uchel, ond prif fwriad y gystadleuaeth yw cynorthwyo ysgolion i greu delwedd o fathemateg fel pwnc i'w fwynhau ac, o'r herwydd, mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth lawn bwysiced os nad yn bwysicach na chyrraedd marc uchel. Mae pob ymgeisydd yn derbyn tystysgrif sy'n nodi iddo gystadlu.

Yn 2026, cymerodd Ysgol y Creuddyn gyfrifoldeb am weinyddu'r gystadleuaeth, ac mae'r wefan hon wedi creu tudalen yn archifo cyn-bapurau'r gystadleuaeth. 

Mi fydd papurau 2026 yn cael eu danfon trwy'r post i ysgolion uwchradd Cymru yn ystod Chwefror 2026. Mae rhestr o'r ysgolion a fydd yn derbyn y papurau i'w gweld yma. Os nad yw eich ysgol ar y rhestr, a hoffwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth, gyrrwch neges e-bost at gareth@mathemateg.com.