Mae Dydd Sadwrn Mawrth 14eg, 2015 yn ddiwrnod arbennig iawn!
I naw lle degol, mae π yn hafal i 3.141592653
Felly, ar Fawrth 14eg, 2015, am 9:26:53 yn y bore, bydd yr amser yn cyfateb i π! Gosodwch eich clociau!
I ddathlu, beth am gwblhau'r daflen waith sy'n atodiad i'r neges yma? Neu beth am ddarllen ychydig o hanes William Jones, o Ynys Môn - y person cyntaf i ddefnyddio'r symbol π i gynrychioli'r gymhareb rhwng cylchedd ac arwynebedd cylch?
