Newyddion

Cardiau Rhifedd

 
Llun o Gareth Evans
Cardiau Rhifedd
gan Gareth Evans - Sul, 25 Ionawr 2015, 10:36 pm
 

Dyma set o gardiau ar gyfer y TGAU Rhifedd newydd.

Cyfarwyddiadau:

1. Argraffwch y ddogfen PDF cefn-wrth-gefn.

[Cardiau Rhifedd]

2. Lamineiddiwch y taflenni.

3. Torrwch ar hyd y llinellau ar y taflenni.

4. Defnyddiwch dyllwr i wneud twll yng nghornel bob cerdyn.

[Tyllwr]

5. Bwydwch y cardiau drwy gylch (keyring) efo diamedr o 3cm neu fwy.

[Cardiau Rhifedd]

Gyrrwch unrhyw adborth trwy drydar @mathemateg.