Gyda thymor newydd ar fin cychwyn, dyma grynodeb o rai o'r deunyddiau (hen a newydd!) sydd ar y wefan erbyn hyn.
Blynyddoedd 7–9
- 14 pecyn gwaith (yn cynnwys dros 300 o dudalennau) ar destunau amrywiol. Er enghraifft, mae'r pecyn "Rhannau o Rif" yn cyflwyno'r dull modelu bar o weithio efo cymarebau a ffracsiynau.

Mae'r pecynnau gwaith ar gael trwy fynd i'r cyrsiau "Mathemateg Blwyddyn 7", "Mathemateg Blwyddyn 8" a "Mathemateg Blwyddyn 9". Mae bob pecyn gwaith yn cynnwys
- Set o fideos cyflawn sy'n cefnogi'r pecyn, ar gael ar ein sianel YouTube.
- Set o gwestiynau cefnogol ar y wefan www.diagnosticquestions.com (chwiliwch am gwisiau o dan yr awdur stevansga).
- Casgliad o adnoddau cefnogol.
- Pecynnau Gwaith Cartref Rhifedd, wedi'u diweddaru ar gyfer defnyddio o Ionawr 2018 ymlaen.

- Pecynnau rhifedd ar gyfer blwyddyn 7; blwyddyn 8; a blwyddyn 9.
- Ffeithluniau i'w harddangos fel posteri yn yr ysgol. Mae'r rhain ar gael ar ffurf PDF; llun JPEG neu fel cyflwyniad PowerPoint.

- Chwe chwrs newydd ar gyfer y cyrsiau TGAU Rhifedd a Mathemateg, ar yr haenau Sylfaenol; Canolradd ag Uwch.
Rhifedd Haen Sylfaenol
Rhifedd Haen Ganolradd
Rhifedd Haen Uwch
Mathemateg Haen Sylfaenol
Mathemateg Haen Ganolradd
Mathemateg Haen Uwch
Mae'r cyrsiau yma'n cynnwys cardiau adolygu; hen bapurau arholiad (efo atebion); a dolenni defnyddiol. - Cwrs Mathemateg Ychwanegol, yn cynnwys nodiadau llawn ar gyfer y cwrs.

- Mae'r deunyddiau ar gyfer yr holl fodylau yn yr hen gwrs Lefel A wedi'u diweddaru i gynnwys papurau arholiad Haf 2017.
- Mae cyrsiau newydd ar gyfer Uned 1; Uned 2; ag Uned 1 Pellach yn y Lefel A newydd. Does dim llawer o gynnwys yma eto, ond bydd hyn yn newid wrth addysgu'r cwrs am y tro cyntaf eleni.
- Mae'r safle wedi cael diweddariad dros wyliau'r haf i ddefnyddio fersiwn diweddaraf moodle, a'r system HTTPS er mwyn cadw eich data yn fwy diogel.
- Cofiwch fod hi'n bosib defnyddio'r ap Moodle Mobile ar eich dyfais Apple neu Android efo'r safle. Rhaid mewnbynnu http://www.mathemateg.com fel enw'r safle, ac yna eich enw defnyddiwr a chyfrinair.